BBC Cymru Fyw

Gatland yn enwi'r tîm

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionAr y fainc bydd Liam Williams wedi perfformiad da yn erbyn Fiji

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r tîm i wynebu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Mae'r 15 bron yn union yr un fath a'r tîm fu'n herio Awstralia ar 8 Tachwedd heblaw bod Jonathan Davies yn dychwelyd i'r canol, gyda George North yn symud nôl i'r asgell a Liam Williams yn disgyn i'r fainc.

Bydd y penderfyniad yna yn siom i Williams, a oedd yn seren y gêm ym marn llawer yn erbyn Fiji ddydd Sadwrn diwethaf.

Ymysg y blaenwyr mae Richard Hibbard yn ôl fel bachwr, er gwaetha' anghydfod gyda'r tîm hyfforddi dros y penwythnos - fe benderfynodd Hibbard chwarae i'w glwb Caerloyw pan nad oedd ar ddyletswydd rhyngwladol.

Dywedodd hyfforddwr cynorthwyol Cymru Rob Howley ddydd Llun bod yr anghydfod wedi'i ddatrys yn dilyn sgwrs rhwng Hibbard a Gatland.

Ar ôl bod yn gapten yn erbyn Fiji, mae Gethin Jenkins allan o'r garfan gydag anaf, ac mae Rhys Webb a Dan Biggar (sydd wedi gwella o anafiadau) yn disodli Mike Phillips a Rhys Priestland fel hanneri.

Mae Priestland wedi ei adael allan o'r garfan yn gyfan gwbl.

image copyrightGetty Images

'Penderfyniad anodd'

Wrth gyhoeddi'r 15, dywedodd Warren Gatland:

"Mae e'r un tîm bron a chwaraeodd yn erbyn Awstralia ac mae'n hwb cael rhai yn ôl wedi anafiadau.

"Mae'n un o'r timau mwyaf profiadol i ni ddewis. Mae rhai penderfyniadau wedi eu gorfodi arnom ni: mae gan Gethin Jenkins anaf i gyhyr, dyw Bradley Davies ddim wedi ymarfer ers deuddydd ac fe gafodd Liam Williams anaf bach i'w ffêr - roedd hwnna'n benderfyniad anodd, ond fe fydd e ar y fainc.

"Rydym yn disgwyl perfformiad clinigol gan y Crysau Duon - rhaid i ni gymharu o ran ymosod ac angerdd."

Cymru v. Seland Newydd: Stadiwm y Mileniwm, dydd Sadwrn, 22 Tachwedd:

Olwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton Saints), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch);

Blaenwyr: Paul James (Caerfaddon), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (heb glwb), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Nicky Smith (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), James Hook (Gloucester), Liam Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol

  • Cymru 17 - 13 Fiji