Cynnig cytundeb deuol i 12 chwaraewr rygbi
- Cyhoeddwyd

Mae'r blaenasgellwr Dan Lydiate ymhlith 12 o chwaraewyr sy'n cael cynnig cytundebau deuol Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd yr undeb bod y cytundebau wedi eu hanfon at y chwaraewyr i'w hystyried ddydd Mawrth.
Yn y cyfamser, mae Cyfarwyddwr Rygbi'r Dreigiau, Lyn Jones, wedi dweud bod yr undeb wedi cynnig cytundebau deuol i dri o'i chwaraewyr, Taulupe Faletau, Hallam Amos a Tyler Morgan.
Fe ddaeth y cytundebau deuol i fodolaeth yn Awst eleni yn dilyn cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru a' rhanbarthau, gyda hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn rhan allweddol o'r broses.
O dan delerau'r cytundeb bydd chwaraewr yn cael ei gyflogi ar y cyd gan yr undeb a'r rhanbarth gyda'r undeb yn talu 60% o'r cytundeb a'r rhanbarth yn talu'r gweddill.
Mae Capten Cymru, Sam Warburton, eisoes wedi derbyn cytundeb o'r fath.
Dychwelyd o Ffrainc
Yn ôl y cytundeb a lle bo hynny'n briodol, fe fydd chwaraewr fel rheol yn aros gyda'i ranbarth gwreiddiol, oni bai bod yna resymau penodol am ymuno a thîm newydd.
Cafodd Lydiate ei ryddhau yn gynnar o'i gytundeb gyda Racing Metro yn Ffrainc.
Fe allai chwaraewyr eraill gael eu hystyried ar gyfer cytundebau deuol a byddai hynny, meddai'r undeb, yn dibynnu ar ymateb y 12 dan sylw.
Yn ôl y drefn gafodd ei harwyddo ym mis Awst, mae Undeb Rygbi Cymru yn rhoi £8.7 miliwn y flwyddyn i'r rhanbarthau wario ar chwaraewyr o Gymru.
Bydd y rhanbarthau yn gallu gwario £2 miliwn o'r arian ar gytundebau deuol, ac mae disgwyl i'r rhanbarthau gyfrannu £1.3 miliwn i'r gronfa, gan wneud cyfanswm o £3.3 miliwn.
'Cadw talent'
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Mae cytundebau deuol yn ein helpu ni i gadw talent ryngwladol yma yng Nghymru ...
"Mae'r undeb wedi bod yn ceisio cyflwyno cytundebau fel hyn am tua dwy flynedd a hanner."
Dywedodd Warren Gatland bod y newyddion yn gam pwysig ymlaen i rygbi Cymru.
"Fe allwn ni ganolbwyntio nawr ar sicrhau bod ein chwaraewyr ifanc gorau yn gwybod mai'r ffordd orau ymlaen er mwyn gwireddu eu potensial yw aros yng Nghymru fel rhan o'r strwythur newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2014
- Cyhoeddwyd29 Awst 2014
- Cyhoeddwyd5 Medi 2014
- Cyhoeddwyd18 Medi 2014
- Cyhoeddwyd23 Medi 2014
- Cyhoeddwyd22 Medi 2014