Adnabod corff dynes 54 oed o Bort Talbot oedd ar goll
- Published
image copyrightSouth Wales Police
Mae'r heddlu wedi dweud mai corff dynes aeth ar goll bedwar diwrnod yn gynharach gafodd ei ei ddarganfod ar draeth Aberafan ddydd Sadwrn.
Roedd Christine Humphrey, 54 oed, heb gael ei gweld ers iddi adael ei chartref yn Sandfields, Port Talbot, yn oriau mân dydd Mawrth, 11 Tachwedd.
Fe ddaeth aelod o'r cyhoedd ar draws y corff tua 13:00 brynhawn Sadwrn.
Cafodd y corff ei adnabod yn ffurfiol ddydd Mawrth ac mae'r ymchwiliad i'r farwolaeth yn parhau.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Tachwedd 2014