'Angen gweinidog trawsrywioldeb', medd Kirsty Williams
- Published
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, wedi dweud y dylai un o weinidogion y llywodraeth fod â chyfrifoldeb penodol am faterion yn ymwneud â thrawsrywioldeb yng Nghymru.
Dywedodd Ms Williams bod "pobl drawsrywiol yn wynebu llawer iawn o ragfarn" ac y gellid gwneud "llawer iawn mwy" i'w helpu i dderbyn gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd ei bod hi'n "syfrdanol" nad oes clinigau rhyw yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r Gweinidog Cymunedau, Leslie Griffiths, sy'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â thrawsrywioldeb.
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn arwain trafodaeth yn y cynulliad ar y mater ddydd Mercher.
'Llawer iawn o ragfarn'
Dywedodd Ms Williams: "Mae hi'n hen bryd cynnal y drafodaeth hon, ac rydw i'n falch bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi sylw haeddiannol i'r materion yma.
"Mae pobl drawsrywiol yn wynebu llawer iawn o ragfarn drwy gydol eu bywydau, ac mae llawer iawn mwy y gallwn ni ei wneud er mwyn eu cefnogi wrth dderbyn gwasanaethau cyhoeddus.
"Wrth ystyried bod yr amcangyfrifon yn nodi bod miloedd o bobl drawsrywiol yng Nghymru, mae hi'n syfrdanol nad oes yr un clinig rhyw yng Nghymru."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod "gweinidogion ar draws y llywodraeth yn cydweithio'n agos er mwyn mynd i'r afael â rhagfarn.
'Cynyddu ymwybyddiaeth'
"Rydym yn ariannu'r Ganolfan Genedlaethol Swyddogol ar gyfer rhoi Cymorth ac Adrodd am Droseddau Casineb, sy'n cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr troseddau casineb ar draws Cymru, ac rydym ni hefyd yn parhau i weithio gyda mudiadau trawsrywiol i gynyddu ymwybyddiaeth o'r mater ac annog dioddefwyr i roi gwybod am droseddau.
"Bydd ein Bil Trais ar sail Rhywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), sy'n cael ei ystyried gan y cynulliad ar hyn o bryd, yn cael effaith bositif ar holl ddioddefwyr trais ar sail rhywedd, gan gynnwys y gymuned drawsrywiol."
Ychwanegodd y datganiad nad oedd digon o alw i gefnogi darpariaeth "diogel a chynaliadwy" o "lawdriniaeth rhyw arbenigol" yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Tachwedd 2014