Benthyciad o hyd at £13 miliwn i Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Prynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr am £52 miliwn ac mae tua £10 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwelliannau iddo

Bydd Maes Awyr Caerdydd yn derbyn benthyciad o hyd at £13 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio denu mwy o gwmnïau awyrennau, mae BBC Cymru yn ei ddeall.

Bydd y rhan gyntaf o'r benthyciad, gwerth £3.5m, yn cael ei roi'r flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio hyn fel y cam mwyaf arwyddocaol ers iddyn nhw brynu'r maes awyr flwyddyn a hanner yn ôl.

Ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod dyfodol i Faes Awyr Caerdydd mewn teithiau pell, er mwyn osgoi cystadleuaeth gyda Maes Awyr Bryste.

Cronfa datblygu

Dyma'r tro cyntaf i'r maes awyr gael cronfa - ddaw gan drethdalwyr - i ddatblygu teithiau ers bron i ddegawd.

Y tro diwethaf i'r maes awyr gael y fath gronfa oedd yn 2006 pan gafodd bron i £4 miliwn ei wario, a hynny pan oedd y maes awyr mewn dwylo preifat.

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi prynu'r maes awyr am £52 miliwn ac mae tua £10 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwelliannau i'r maes awyr.

Bydd yr arian yn cael ei ddarparu ar ffurf benthyciad ar delerau masnachol.

Rhwng Medi 2013 a Medi 2014 roedd nifer y teithwyr oedd yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi gostwng 7%.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd y cwmni o'r Almaen, Germanwings, y byddan nhw'n rhoi'r gorau i deithio rhwng Caerdydd a Dusseldorf yn 2015.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi penderfynu gwneud hynny oherwydd nad oedd y daith wedi cyrraedd disgwyliadau.

Mae cwmni CityJet hefyd wedi rhoi'r gorau i gynnig rhai gwasanaethau o Gaerdydd yn ddiweddar, gan ddod â'u teithiau rhwng y brifddinas a Glasgow i ben.

Ond mae'r maes awyr hefyd wedi gweld datblygiadau mwy addawol gyda Ryanair yn cyhoeddi manylion taith newydd o Gaerdydd i Tenerife, a'r cwmni o'r Iseldiroedd, KLM, yn cyhoeddi y byddan nhw'n cynyddu'r nifer o deithwyr ar eu teithiau rhwng Caerdydd ac Amsterdam.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi benthyciad masnachol o £3.5 miliwn i Faes Awyr Caerdydd ar gyfer datblygu mwy o deithiau o'r maes awyr, a gwella'r dewis sydd ar gael i deithwyr."

Ychwanegodd y llefarydd bod cyfanswm y benthyciad yn dal i gael ei drafod.

Bydd yn rhaid i'r buddsoddiad gyd-fynd â rheolau'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â chymorth gwladol i'r sector preifat.