Shirley Bassey: Canu a Chymru

  • Cyhoeddwyd
Shirley Bassey

Mae 'na 61 o flynyddoedd ers i lais unigryw Y Fonesig Shirley Bassey gyfareddu'r byd adloniant am y tro cynta' a does 'na ddim arwydd eto bod y Gymraes, sy'n wreiddiol o Tiger Bay yn nociau Caerdydd, am roi'r gorau i ganu.

A hithau bellach yn 77 oed mi fuodd hi'n trafod ei phrosiect diweddara' a'i theimladau am ddod nôl i'w milltir sgwâr ar Wynne Evans's Big Welsh Weekend ar BBC Radio Wales. Fe ddechreuodd Wynne (sy'n dipyn o ganwr ei hun wrth gwrs!) trwy ofyn i'r gantores am ei gyrfa faith yn y byd adloniant:

Disgrifiad o’r llun,
Y Fonesig Shirley Bassey yn cadw cwmni i Wynne Evans

61 o flynyddoedd a 'dych chi'n dal i ganu! Wnaethoch chi ddychmygu bod yna yrfa mor hir a llwyddiannus o'ch blaen pan oeddech chi'n ferch 16 oed nôl yn Tiger Bay?

Sut allai unrhywun ragweld hynny! 'Falle ar y pryd pan oeddwn i'n dechrau yn y busnes nes i feddwl y buaswn i'n medru gwneud bywoliaeth tan fy mod yn fy ugeiniau. Mae hi'n un o'r straeon rhyfeddol, hudol rheiny. Dyna oedd fy ffawd.

R'ych chi wedi cyhoeddi sawl albwm dros y blynyddoedd, beth sydd wedi eich ysgogi i fynd nôl i'r stiwdio i recordio'r record ddiweddara' 'Hello Like Before' [casgliad o fersiynau newydd o hen ganeuon]?

Ro'n i eisiau canu pob un o'r caneuon pan nes i eu clywed am y tro cyntaf flynyddoedd yn ôl. Fe syrthiais mewn cariad 'da nhw. Dwi'n dal i'w caru yr holl ddegawdau yn ddiweddarach.

Yn fwriadol wnes i ddim recordio 'It Was a Very Good Year' tan nawr er fy mod i wedi cael fy nhemtio. Ro'n i'n teimlo ar y pryd fy mod i'n rhy ifanc i'w chanu.

Disgrifiad o’r llun,
Am y tro cyntaf erioed Shirley Bassey sydd wedi dewis yr holl ganeuon ar ei halbwm newydd 'Hello Like Before'

Mae rhai yn dweud hefyd "rwyt ti'n ferch, alli di ddim canu An Englishman in New York". Ond rwy'n cofio Sting yn ei chanu a meddwl ei bod hi'n gân hyfryd.

Beth bynnag, mae pawb yn gwybod mai Cymraes ydw i felly maen nhw'n gallu dadgysylltu fy nehongliad i o'r gân oddi wrth y teitl! Yn yr oes hon mae unrhywbeth yn bosib.

Ydych chi'n feirniadol ohonoch eich hun wrth wrando nôl ar eich llais?

Ydw! Alla'i ddim ymlacio. Dwi'n meddwl yn syth pam wnes i ddim gwneud hyn neu'r llall. Ond rydw i yn hapus tu hwnt gyda'r record newydd 'ma. Dyma'r tro cyntaf erioed i mi ddewis pob un o'r caneuon ar albwm rydw i wedi ei recordio. Roedd gen i reolaeth lawn dros y cynnwys.

Bydd nifer o bobl yn eich cysylltu gydag arwyddgân y ffilm James Bond, 'Goldfinger', ond rwy'n deall bod yna ddau nodyn anghywir yn y gân?

Pob tro fues i'n canu'r gân ro'n i wastad yn credu bod hi'n swnio yn anghywir! Ond mae pob cyfarwyddwr cerdd rwy' wedi gweithio 'da nhw dros y blynyddoedd yn dweud wrtha i nad oedd 'na broblem. Erbyn hyn ar y recordiad newydd ry'n ni wedi gostwng y cywair ac am y tro cyntaf fedra i ddim clywed y nodau anghywir o gwbl.

'Falle mai yn fy mhen i oedd y cyfan! Mae'r gân yn teimlo'n iawn. Rwy'n falch fy mod i wedi cael cyfle i'w recordio eto.

Disgrifiad o’r llun,
Mae llais Shirley Bassey yn dal i fod mor gryf ac unigryw ag oedd o yn y 70au

Sut y'ch chi wedi llwyddo i gadw'ch llais? Mae'n dal yr un mor gryf o'r nodau uchaf i'r nodau isaf.

Diolch am ddweud hynny. Wnes i 'rioed ddarllen cerddoriaeth ond rydw i wedi bod yn ymarfer fy llais yn gyson dros y blynyddoedd. Dwi'n dal i ddysgu, a dyna pam ei bod hi mor braf i recordio fersiwn wahanol o ganeuon fel 'Goldfinger' eto. Mae'n dangos bod y llais yn dal i ddatblygu.

Fyddech chi'n ystyried dod nôl i Gaerdydd i fyw?

Na. Mae'r tywydd yn rhy wael! Ond i fod o ddifri, petai fy mam yn dal yn fyw mi fyddwn i'n teimlo'n wahanol. Dwi wedi colli y rhan fwyaf o fy nheulu agosaf erbyn hyn. Bydde fe'n anodd i fi ddod nôl.

Beth am ddod nôl i'r brifddinas i ganu?

Rwy'n caru dod gartref i ganu. Ond rwy'n gweld cyngerdd yng Nghaerdydd yn dipyn mwy o her na chyngherddau eraill gan mai fy nghartre i yw e.

Disgrifiad o’r llun,
Fyddai Shirley Bassey ddim wedi breuddwydio nôl yn 1956 y bydda hi yn dal i "ganu am ei swper"

Dyma gwpl o gwestiynau cyflym i orffen am hwyl. 'Goldfinger' -oes gennych chi fodrwy aur ar eich bys?

Ha ha. Nagoes! Platinwm neu ddeiamwnt yw'r ffefrynnau.

'Big Spender' - ydi hynny'n wir?

Ydi, rwy'n arbenigwraig yn y maes!

'Diamonds are Forever'?

"Wel os y'ch chi am eu cadw, wrth gwrs eu bod nhw!"

Gallwch chi glywed cyfweliad llawn gyda'r Fonesig Shirley Bassey ar Wynne Evans's Big Weekend, BBC Radio Wales am 13:00, Dydd Gwener 21 Tachwedd

Disgrifiad o’r llun,
Mae Shirley Bassey wedi recordio fersiwn newydd o 'Goldfinger'. Mae hi'n hapus, am y tro cynta', bod pob nodyn yn ei le!