Pryder Peta a hwyl yr ŵyl
- Cyhoeddwyd

Mae Peta, corff sy'n ymgyrchu dros drin anifeiliaid yn deg, yn beirniadu Gorymdaith Nadolig Y Bont-faen gan honni eu bod yn greulon gyda cheirw.
Mae cydlynydd ymgyrch Peta, Kirsty Henderson, wedi annog Siambr Fasnach Y Bont-faen i beidio â defnyddio ceirw byw yn eu gorymdaith flynyddol.
Dywedodd Ms Henderson: "Mae defnyddio anifeiliaid fel propiau byw mewn dathliadau fel yma'n gyrru neges anffodus i bobl ifanc."
Yn ei llythyr, mae'n nodi bod prysurdeb canol dref, llawn siopwyr swnllyd a goleuadau llachar, yn gwbl anaddas i geirw.
"Mae nifer o ffyrdd i bobl Y Bont-faen ddathlu'r gwyliau sy'n gwell gydlynu neges y Nadolig yn hytrach na defnyddio anifeiliaid ofnus fel addurniadau Nadolig."
Mewn ymateb, dywedodd Alun John, Siambr Fasnach Y Bont-faen: "Mae ein digwyddiad yn eilaidd i les yr anifeiliaid. Rydym ni'n defnyddio'r un cwmni ers 15 mlynedd ac yn hyderus bod y ceirw'n cael y gofal gorau posib."
Mae Peta yn dweud bod pwysau diangen yn cael ei roi ar anifeiliaid wrth iddynt deithio oriau hir i gyrraedd lleoliadau a bod defnyddio creaduriaid byw fel cefndir deniadol i ddathliadau yn greulon a diangen.
Mae oddeutu 15,000 i 20,000 o bobl yn mynychu Gorymdaith Nadolig Y Bont-faen bob blwyddyn, a bydd y ceirw "yno eto eleni oherwydd nad oes gan y Siambr Fasnach, yr heddlu na Chyngor Sir Bro Morgannwg bryderon bod risg lles y ceirw."