Agor cwest i farwolaeth plentyn 16 mis oed
- Published
Mae cwest wedi'i agor a'i ohirio i farwolaeth bachgen bach yn Aberystwyth.
Yr amheuaeth yw bod Edwin Davies, 16 mis oed o Southgate, wedi marw ar ôl mynd yn sownd yn ei gadair uchel.
Cafodd ei gludo 150 milltir mewn hofrennydd i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, ond ofer oedd ymdrechion meddygon i achub ei fywyd.
Bu farw yn yr ysbyty ar Tachwedd 9.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r farwolaeth ond dydy o ddim yn cael ei drin fel achos amheus.
Fe ddywedodd maer Aberystwyth, Brenda Haines: "Roedd marwolaeth Edwin yn sioc i bawb.
"Mae wedi effeithio ar yr holl gymuned, ond mae pawb yn gefn iddyn nhw ac yn eu cefnogi - fel mam, 'dy chi wir yn teimlo'r boen, mae'n ofnadwy."
Ychwanegodd fod hon "yn ddamwain allai ddigwydd i unrhywun. Mae meddyliau pawb gyda'r teulu."