Ymestyn cytundeb Bony
- Cyhoeddwyd

Mae'r ymosodwr Wilfried Bony wedi cytuno i ymestyn ei gytundeb presennol gydag Abertawe o 12 mis.
F allai'r cytundeb newydd gadw'r ymosodwr 25 oed yn Stadiwm y Liberty tan 2018.
Fe wnaeth Bony sgorio 25 gol yn ei dymor cyntaf ar ôl i Abertawe ei arwyddo am £12m o glwb Vitesse Arnhem yn yr Iseldiroedd.
Mae o wedi sgorio pedair gwaith y tymor hwn.
Dywedodd rheolwr Abertawe fod y cytundeb newydd yn "newyddion gwych i'r clwb."