Trafod cytundeb cyflog i weithwyr iechyd
- Cyhoeddwyd

Bydd arweinwyr undeb yn cyfarfod ddydd Iau er mwyn penderfynu os ydyn nhw am dderbyn cytundeb cyflog, y cyntaf o'i fath ar gyfer Cymru yn unig, sydd wedi'i gynnig i weithwyr y gwasanaeth iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cytundeb dwy flynedd, sy'n cynnwys codiad cyflog o 1% o fis Ebrill nesaf.
Bydd arweinwyr undeb, penaethiaid y gwasanaeth iechyd a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau yn Wrecsam - trafodaethau fydd yn effeithio ar 80,000 o weithwyr, ond nid meddygon a deintyddion.
Roedd trafodaethau blaenorol wedi eu cynnal ar draws y DU, ond newidiodd hynny wedi i argymhellion y corff oedd yn gyfrifol am adolygu cyflogau gael eu gwrthod.
Mae gweithredu diwydiannol wedi ei gynnal yn Lloegr, ond cafodd ei ohirio yng Nghymru'r wythnos diwethaf, pan gafodd y cytundeb dwy flynedd ei gyflwyno i'r undebau.
Mae'r cytundeb yn cynnwys taliad i'r gweithwyr eleni, cyflwyno cyflog byw i'r gweithwyr ar y cyflogau isaf o fis Ionawr a chodiad cyflog o 1% i'r holl weithwyr o fis Ebrill.
'Agor y llifddorau'
Mae un o undebau gweithwyr y sector cyhoeddus wedi rhybuddio y gall cytundeb ar gyfer Cymru'n unig "agor y llifddorau" ar gyfer cytundebau cyflog rhanbarthol yn y gwasanaeth iechyd.
Wythnos diwethaf dywedodd Dawn Bowden, o'r undeb Unsain, bod Cymru yn "gyffredinol yn cael ei hystyried yn economi cyflogau isel" a bod cyflogau rhanbarthol yn creu "peryglon" - y perygl y byddai gweithwyr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n derbyn cyflogau is.
Ond dywedodd bod yr undeb wedi llwyddo i "gydweithio'n dda" gyda gweinidogion y llywodraeth a'u bod, yn wleidyddol, yn rhannu nifer o'r un safbwyntiau, yn "enwedig o ran y gwasanaeth iechyd".
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cytundeb cyflog yn "dangos pa mor bwysig yw'r gweithwyr i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru" ac mai eu blaenoriaeth yw sicrhau "swyddi rheng flaen y gwasanaeth iechyd, er gwaethaf toriadau sylweddol i'w cyllideb."
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2014
- 20 Hydref 2014