Gweithwyr Iechyd yn derbyn cytundeb cyflog

  • Cyhoeddwyd
GIG
Disgrifiad o’r llun,
Cytuno ar godiad cyflog o 1% i'r GIG

Mae arweinwyr yr undebau wedi derbyn cytundeb cyflog, y cyntaf o'i fath ar gyfer Cymru yn unig, sydd wedi'i gynnig i weithwyr y gwasanaeth iechyd.

Fe fydd y cytundeb dwy flynedd, sydd wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys codiad cyflog o 1% o fis Ebrill nesaf.

Cynigir codiad cyflog i hyd at 800,000 o staff, ac eithrio doctoriaid a deintyddion.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gynnig cyflog byw i holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae cynrychiolwyr o'r undebau wedi bod yn trafod cynnig y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, ers rhai misoedd.

Ynghlwm a'r cynnig, bydd staff yn derbyn taliad 'un-tro' o £187 a chodiad i'r cyflog byw yn dechrau o 1 Ionawr 2015.

Toriadau Llym

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r cytundeb dwy flynedd i Gymru'n profi ein hymrwymiad i weithwyr cyflogedig y GIG wrth i ni wynebu her gyllidol.

"Ein blaenoriaeth bennaf - sydd am barhau - yw cynnal swyddi ar flaen y GIG yn erbyn toriadau llym i'n cyllideb.

"Dyma enghraifft ardderchog o gydweithio a chyd-gynhyrchu er mwyn gallu osgoi streic a chytuno ar gytundeb sydd o fudd i bawb yng Nghymru. "

Meddai Dawn Bowden, UNISON: "Mae hi wedi bod yn broses anodd i bawb sydd ynghlwm, yn arbennig mewn cyfnod ariannol heriol o ganlyniad i raglen lem Llywodraeth y DU.

"Yn amlwg, nid yw'r cytundeb yn gwneud i fyny am golled gweithwyr y GIG sydd wedi dioddef yn y blynyddoedd diweddar, ond rydym yn obeithiol bydd modd adeiladu ar y cytundeb i'r dyfodol."