Cyhuddo tri heddwas o ladrata
- Published
Mae dau aelod o'r heddlu a chyn gydweithiwr iddynt wedi ymddangos gerbron Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr ar gyhuddiad o ddwyn £30,000.
Fe wnaeth Crhistopher Evans, 37 a Michael Stokes, 34, y ddau yn heddweision gyda Heddlu'r De, ynghyd â'r cyn dditectif sarjant Stephen Phillips bledio'n ddieuog.
Honnodd Gemma Vincent, ar ran yr erlyniad, fod yr arian wedi ei ddwyn o dŷ yn Abertawe yn dilyn cyrch gan yr heddlu yn Ebrill 2011.
Dywedodd Ms Vincent mai'r achwynwyr yn yr achos oedd Natalie Luben a Joedyn Luben.
Mae Mr Stokes o Lyn Nedd a Mr Phillips o Winchwen, Abertawe, yn wynebu pedwar cyhuddiad yr un o ladrata.
Mae Mr Evans, o Langennech, Llanelli yn wynebu dau gyhuddiad o ladrata.
Dywed Heddlu'r De fod y tri wedi eu cyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan Adran Safonau Proffesiynol y llu.
Fe fydd y tri dyn yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 8 Rhagfyr.