Heddlu: Gwerthu gwasanaeth mewn siop?
- Cyhoeddwyd

Mewn ymdrech i arbed arian a gwneud yr heddlu yn fwy gweledol, mae un o heddluoedd Cymru yn ystyried sefydlu gorsaf mewn archfarchnad newydd.
Mae gorsaf bresennol Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn un o'r rhai sydd wedi ei chlustnodi gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys fel un sydd i'w chau a'i hadleoli.
Un o'r opsiynau dan ystyriaeth yw sefydlu gorsaf newydd yng ngorllewin y dre, datblygiad newydd sy'n cynnwys archfarchnad Sainsbury's.
Ond mae rhai yn poeni y byddai lleoliad o'r fath yn anaddas, gan ddadlau na fyddai rhai yn fodlon cael eu gweld yn mynd â'u cwynion i'r heddlu mewn lle mor gyhoeddus.
Dywed Sainsbury's nad ydynt mewn sefyllfa eto i ddweud pryd fydd y safle yn barod, na chwaith i wneud sylw ar yr hun mae'r Comisiynydd yn ei ystyried tan fod yna gynlluniau mwy pendant wedi eu cyflwyno.
'Plismyn yn hytrach na brics'
Mae'r datblygiad ar safle 56 acr gerbron yr A48 yn cynnwys archfarchnad Sainsbury's, 250 o dai newydd a chanolfan iechyd.
Dywed Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Christopher Salmon fod angen sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am blismona cymunedol gyda'r gost o gynnal a chadw adeiladau presennol.
Ar hyn o bryd mae Swyddfa'r Comisiynydd yn gwario tua £2.9 miliwn y flwyddyn ar gostau cynnal a chadw 70 o safleoedd.
"Rwyf am roi'r flaenoriaeth ar wario ar blismyn yn hytrach na brics."
Daw ei sylwadau wrth i'r arian mae Heddlu Dyfed Powys yn ei dderbyn gan y Llywodraeth ostwng o tua £60.5 miliwn yn 2011-12 i £53 miliwn yn 2014-15.
Un o'r canlyniadau yw y bydd pump o orsafoedd yn cau, ac 11 yn cael eu hadleoli.
GORSAFOEDD FYDD YN CAEL EU HADLEOLI YN RHANBARTH DYFED-POWYS
- Abergwaun
- Aberdaugleddau
- Castellnewydd Emlyn
- Caerfyrddin
- Cross Hands
- Llandeilo
- Llanfyllin
- Llanidloes
- Machynlleth
- Sancler
- Tyddewi
Dywed Mr Salmon fod yna falans i'w gael rhwng gwario ar adeiladau ac ar blismyn, ond fod pobl am weld presenoldeb yr heddlu, "eu bod nhw'n weladwy."
"Rydym yn edrych ar wahanol opsiynau mewn gwahanol ardaloedd, yn Llwynhendy (Llanelli) mae sôn am y posibilrwydd o rannu adeilad llyfrgell newydd, a chynlluniau tebyg yn Nhrefyclawdd, Sir Faesyfed.
"Pe bai angen sgwrs fwy preifat yna mae modd trefnu hynny."
Yn nhre Caerfyrddin mae'r Comisiynydd yn ystyried lleoliad newydd rhywle yng nghanol y dre, "math o 'ffenest siop' fydd ar agor i'r cyhoedd."
"Mae gennym lai o arian i wario, felly mae'n rhaid i ni wneud yn well efo'r adnoddau sydd gennym a sicrhau gwasanaeth ar gyfer y 21ain ganrif.
"Mae'n rhaid i ni gofio ein bod yn darparu ein gwasanaeth i gwsmeriaid.
"Ac mae disgwyliadau cwsmeriaid modern yn wahanol, mae disgwyl i ni ddarparu gwasanaeth sy'n hawdd i gael gafael arno. "
Dywedodd mai dim ond un opsiwn dan ystyriaeth oedd opsiwn Sainsbury's.
'Angen preifatrwydd'
"Mae'n rhaid iddo fod yn hwylus, rhywbeth sy'n cydfynd â'r modd mae pobl yn byw ei bywydau. Yn hynny o beth byddai lleoliad sy'n rhan o archfarchnad ddim yn beth ffôl. Ond dw i ddim yn dweud mai dyna'r unig ateb."
Ond dywedodd Terry Davies, cynghorydd sir lleol a chadeirydd cyngor cymuned Gorslas na fydda nhw'n ffafrio'r syniad o osod gorsaf heddlu mewn archfarchnad.
"Ni am barhau a safle yng nghanol Cross Hands, byddwn i o blaid lleoli gorsaf yn y llyfrgell leol, cyn belled a bod yr adeilad yn cael ei addasu, a bod yna wahaniaeth pendant rhwng y llyfrgell a safle'r heddlu."
"Ond dwi'n meddwl bod angen preifatrwydd. Nid pawb sydd am i bobl eraill wybod eu bod wedi bod i weld yr heddlu, a byddai'n anodd gwneud hynny mewn lle fel siop neu archfarchnad"