Cymru'n galw buddsoddwyr y byd mewn cynhadledd
Gan Ellis Roberts
Newyddion BBC Cymru
- Published
Os oedd uwch gynhadledd NATO yn y Celtic Manor yn ddigwyddiad o bwysigrwydd byd-eang ym mis Medi - fe allai'r gynhadledd sy'n cael ei chynnal yno yn ddiweddarach fod yn bwysicach i Gymru, gan mai'r nod ydy denu rhagor o fusnesau o dramor yma.
Toyota, Ford, Sony, General Dynamics a GE yw rhai o'r enwau sydd wedi eu denu yma'n barod - cwmnïau sydd wedi penderfynu dod â rhyw faint o'u gwaith i Gymru.
Ond mae rhannau helaeth o orllewin Cymru a'r Cymoedd yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymorth gan yr Undeb Ewropeaidd - yr arian sy'n mynd i'r rhanbarthau tlotaf - arian y mae Cymru ar fin ei gael am y trydydd tro.
Mwya' o fusnes y bydd modd ei ddenu o'r gynhadledd yn y Celtic Manor felly, gorau oll.
10,000 o swyddi
Yn 2013/14 fe ddenodd Cymru 79 o brosiectau o dramor, gyda'r rheiny'n creu, neu'n gwarchod, dros 10,000 o swyddi.
Mae 'na le i fod yn obeithiol - yn ôl Llywodraeth Cymru mae cwmnïau tramor yn creu mwy o swyddi yma nag ar unrhyw adeg yn ystod y 30 mlynedd ddiwetha'.
Un o'r cwmnïau hynny ydy CGI, fydd, dros y pum mlynedd nesa, yn creu 600 o swyddi newydd ym Mhen-y-bont, ym maes cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth.
Bydd Llywydd y cwmni hwnnw ym Mhrydain yn un o'r siaradwyr yn y Celtic Manor heddiw.
Fe fydd 'na hefyd gynrychiolwyr o Raspberry Pi - sy'n gwneud cyfrifiaduron ym Mhencoed - a'r rheiny ddim mwy na'ch cerdyn banc.
Ddydd Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion dros 1,000 o swyddi newydd, ond doedd yr un o'r rheiny yn rhannau gorllewinol Cymru - y llefydd hynny sy'n tueddu i gael eu hamddifadu o'r buddsoddiadau mawr.
Bydd dros 150 o fuddsoddwyr ac arweinwyr busnes yn y Celtic Manor.
Mae'n gyfle i ni estyn croeso iddyn nhw - a chroesawu'r hyn y gallen nhw ei gynnig i Gymru hefyd.
Yn y cyfamser, mae llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cwmni Airbus ym Mrychdyn yn derbyn £8.1m i'w wario ar hyfforddiant.
Cafodd y cwmni gefnogaeth am y tro cyntaf yn 2009, a bydd yn parhau am bum mlynedd arall.
Y bwriad yw rhoi'r hyfforddiant y mae'r gweithlu ei angen i "fanteisio ar fuddsoddiad Airbus mewn technoleg newydd ar y safle".
Dywedodd Carwyn Jones: "Bydd y cyllid yn helpu i ddiogelu swyddi ym Mrychdyn a sicrhau ein bod ni'n parhau ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd mewn marchnad fyd-eang sy'n hynod gystadleuol."
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Tachwedd 2014
- Published
- 20 Hydref 2014