Cerys Matthews ymysg Cymry sy'n derbyn anrhydeddau
- Published
Bydd y gantores pop o Gymru, Cerys Matthews yn un o nifer fydd yn derbyn anrhydeddau ym Mhalas Buckingham ddydd Gwener.
Yn cael ei chofio fwyaf fel cantores y grŵp Catatonia, bydd Ms Matthews yn derbyn MBE am ei gwasanaethau i gerddoriaeth.
Hefyd yn cael anrhydeddau mae Elizabeth Tucker o Aberporth am wasanaethau i Dreftadaeth yng Ngheredigion, a bydd yr Arweinydd-Sgwadron Gareth Roberts o Rhuthun yn cael ei anrhydeddu am wasanaethau i'r Awyrlu.
Mae Rhodri Walters, gafodd ei fagu ym Merthyr Tudful, yn dod yn Gydymaith Urdd y Baddon ar ôl ymddeol fel clerc yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Prif bersonoliaeth pop
Daeth Cerys Matthews yn boblogaidd fel cantores y grŵp Cymraeg Catatonia, gafodd lwyddiant yn y 1990au.
Roedd hi'n un brif bersonoliaethau pop y cyfnod, ac mae ei llais yn dal i fod yn adnabyddus hyd heddiw.
Ers 2008 mae Ms Matthews wedi bod yn lais cyfarwydd ar y radio, yn enwedig ar BBC Radio 6.
Y tu allan i fyd darlledu, mae hi wedi bod yn ganolog wrth drefnu'r ŵyl cerddoriaeth byd, WOMEX, gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd y llynedd.
Mae Elizabeth Tucker yn derbyn ei gwobr am ei gwaith yn adfer Castell Aberteifi gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Cadwgan.
Dechreuodd yr Arweinydd-Sgwadron Gareth Roberts hedfan awyrennau'r Awyrlu yn 1986, ac ers hynny mae wedi dod yn un o brif hyfforddwyr y llu yn Y Fali, Ynys Môn.
Dywedodd Ar-Sg Roberts: "Mae'n syndod cael fy anrhydeddu am wneud rhywbeth y mae gen i wir angerdd amdano, ac rydw i'n ddiolchgar fy mod i wedi cael y fath gyfleoedd oedd yn heriol ond hefyd yn hollol bleserus."
Mae Rhodri Walters yn cael ei urddo yn Gydymaith Urdd y Baddon yn dilyn gyrfa hir yn y senedd.