Cytuno trydaneiddio rheilffyrdd de Cymru a'r Cymoedd
- Published
Mae'r ddadl am dalu am drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru wedi dod i ben ar ôl i lywodraethau'r DU a Chymru ddod i gytundeb.
Bydd y cynllun yn golygu gwella'r brif reilffordd o Paddington yn Llundain i Gaerdydd erbyn 2017 ac yna ymestyn y lein i Abertawe erbyn 2018, y cyfan ar gost o £850m.
Roedd cynllun i drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd wedyn ond roedd ffrae ym mis Mawrth am bwy ddylai dalu am hyn.
Dan y cytundeb newydd bydd Llywodraeth y DU yn talu am drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, ac yn talu £125m at gost trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
Mae cost y rhan yna o'r cynllun wedi ei hamcangyfrif rhwng £309m a £463m.
'Cyflym, modern, effeithlon'
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron ei fod yn "bleser" cael cyhoeddi y byddai'r cynllun trydaneiddio yn mynd yn ei flaen.
"Wedi blynyddoedd o anwybyddu, o'r diwedd bydd y rhan hon o Gymru yn cael yr isadeiledd y mae ei hangen, trenau cyflymach, mwy modern, mwy effeithlon a bydd yr effaith yn enfawr," meddai.
"Bydd ehangu y cyfleoedd gwaith ar gyfer Caerdydd a'r Cymoedd yn helpu pobl sy'n gweithio'n galed o bob rhan o'r wlad ardderchog hon i lwyddo."
Dywedodd fod y cynllun ond yn bosib oherwydd Llywodraeth y DU, ac ychwanegodd ei fod yn dangos "cynllun economaidd" ei lywodraeth yn "gweithio er lles pobl Cymru".
Ddydd Gwener mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi bod rheolaeth ar fasnachfraint rheilffordd Cymru a'r Gororau yn symud i Fae Caerdydd - Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pwy fydd â'r fasnachfraint newydd yn 2018.
Dadansoddiad Tomos Livingstone, Gohebydd Gwleidyddol
Fe ddylai'r cytundeb newydd ddod ag un o benodau mwya' dryslyd hanes datganoli i ben - heb sôn am sicrhau buddsoddiad sy'n cael ei ystyried yn un hanfodol i ddyfodol economi Cymru.
Gyda chysylltiadau rhwng Llundain a dinasoedd fel Manceinion, Birmingham, Lerpwl a Newcastle wedi'u trydaneiddio flynyddoedd maith yn ôl, roedd Caerdydd ac Abertawe - a Bryste o ran hynny - wedi hen deimlo nad oedden nhw'n cael triniaeth deg.
Fe fydd y trenau newydd yn cynnig siwrne fyrrach, fwy dibynadwy ond mae uwchraddio llinellau'r Cymoedd yn arwyddocaol- heb y fath fuddsoddi go brin bod modd siarad yn grand am Fetro i'r de na chwaith "Ddinas-Ranbarth Caerdydd".
Mae'r cytundeb yn tanlinellu rhai o beryglon datganoli lle bo pleidiau gwahanol mewn grym yng Nghaerdydd a Llundain, a'r berthynas efallai ddim mor glos ag y gallai fod. Camddealltwriaeth mewn gwirionedd a methiant i sicrhau fod popeth i lawr ar bapur wnaeth arwain at y ffrae ddiangen hon.
Nod yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Stephen Crabb, oedd rhoi stop ar y fath broblemau, ac ymddengys ei fod e wedi cael ei ffordd. Mae'n hysbys fod Mr Crabb ar delerau gwell â gweinidogion Llywodraeth Cymru na'i ragflaenydd David Jones.
Gyda'r siwrne drên rhwng y ddwy brifddinas yn debyg o fod yn llawer hwylusach unwaith i'r gwaith orffen yn 2018, efallai nad oes esgus i'r fath gwympo mas ddigwydd eto. Gewn ni weld.
'Symud ymlaen'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn falch cael cytundeb ar gyllido'r cynllun.
"Bydd y cytundeb yn sicrhau trydaneiddio yr holl ffordd o Lundain i Abertawe ac yn golygu y gallwn ni symud ymlaen gyda chynllun moderneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd heb unrhyw gost derfynol i Lywodraeth Cymru."
Ychwanegodd ei fod yn golygu y gallai'r llywodraeth "symud ymlaen gyda chynlluniau uchelgeisiol i greu gwasanaeth rheilffyrdd effeithlon a dibynadwy y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu".
'Ysgogiad'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, fod y cytundeb yn "ysgogiad i fusnesau fuddsoddi yn y wlad".
"Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn rhan hanfodol o unrhyw economi fodern ac mae'r angen yn fawr am well costau i'r teithwyr, gwell amseroedd teithio a mwy o wasanaethau trên ..."
Y gred yw y bydd trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd yn lleihau'r amseroedd teithio o Ferthyr Tudful neu Dreherbert i Gaerdydd, 50 munud yn lle mwy nag awr.
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Mawrth 2014
- Published
- 26 Mawrth 2014
- Published
- 31 Awst 2014