Digwyddiad: Dau mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a dynes mewn cyflwr difrifol wedi digwyddiad yng Nghasnewydd nos Iau.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Heol Beaufort am 1750.
Pan gyrhaeddon nhw, fe ddaeth swyddogion o hyd i ddynes gydag anafiadau allai beryglu ei bywyd.
Gerllaw, fe ddaethon nhw o hyd i ddyn gydag anafiadau tebyg.
Mae'r ddau wedi eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle mae'n nhw'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae'n debyg fod y ddau yn adnabod ei gilydd.
Nawr, mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad. Dylid cysylltu â'r heddlu ar 101 a nodi'r cyfeirnod 364 20/11.