Buddugoliaeth hanesyddol i Gymru dan 16
- Cyhoeddwyd

Cymru'n dathlu trechu Lloegr 1-0 ym Mangor yng ngêm agoriadol y gyfres
Mae tîm pêl-droed dan 16 Cymru wedi cipio tarian y Victory Shield am y tro cynta' ers 1949.
Mae'r bencampwriaeth flynyddol - sy'n cael ei chynnal ers 1925 - yn cynnwys timau ieuenctid Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Dan adain Osian Roberts ac Ian Rush, fe gurodd Cymru bob gêm.
Fe drechon nhw Loegr 1-0 ym Mangor, a churo'r Alban 2-1 oddi cartref.
Daeth pinacl y cystadlu neithiwr gyda buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon.
"Dw i'n hynod falch. Mae'n goblyn o gamp, yn benllanw ar waith pawb," meddai'r rheolwr, Osian Roberts.
"Mae'n noson hanesyddol. 'Da ni wedi disgwyl yn hir am hyn, ond mae'n dangos fod dyfodol pêl-droed Cymru mewn dwylo diogel, ac yn symud i'r cyfeiriad cywir".