Agor cwest i farwolaeth Cerys Yemm
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth Cerys Yemm, fu farw yn dilyn ymosodiad canibalaidd honedig ym mhentre' Argoed yn Sir Caerffili.
Clywodd uwch-grwner Gwent, David T Bowen fod Ms Yemm wedi marw o anafiadau difrifol i'w hwyneb a'i gwddf.
Fe gafodd corff y fenyw 22 oed ei ryddhau er mwyn i'w theulu gael trefnu ei hangladd.
Cafwyd hyd i Ms Yemm yn llety'r Sirhowy Arms yn y pentre' ar 6 Tachwedd.
Fe daniodd heddlu wn Taser tuag at ei hymosodwr, Matthew Williams, fu farw'n ddiweddarach.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014