Arestio dyn: 'Ceisio llofruddio'

  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd neithiwr, mae menyw 54 oed wedi gadael yr ysbyty, a dyn wedi ei arestio dan amheuaeth o geisio llofruddio.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Heol Beaufort yn y ddinas am 1750.

Pan gyrhaeddon nhw, fe ddaeth swyddogion o hyd i'r fenyw gydag anafiadau allai beryglu ei bywyd.

Gerllaw, fe ddaethon nhw o hyd i ddyn gydag anafiadau tebyg.

Fe gafodd y ddau wedi eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent.

Nawr, mae dyn 50 oed - sy'n parhau i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog - wedi ei arestio dan amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad. Dylid cysylltu â'r heddlu ar 101 a nodi'r cyfeirnod 364 20/11.