Ysgolion: Y brifddinas ar y brig?
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhestr wedi'u goladu ers 22 o flynyddoedd
Ysgolion Caerdydd sydd frig dwy restr - i ysgolion cyhoeddus ac annibynnol - sy'n graddio perfformiad ysgolion uwchradd Cymru, yn ôl rhestr gan bapur newydd The Sunday Times.
Mae'r rhestr yn cyfuno canlyniadau TGAU a Lefel A ysgolion, i gael rhestr o'r ysgolion sy'n perfformio orau yng Nghymru.
Y 10 uchaf: Ysgolion cyhoeddus Cymru
- Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd
- Ysgol Basaleg, Casnewydd
- Ysgol Penglais, Aberystwyth
- Ysgol Gyfun Y Bont-faen, Y Bont-faen
- Ysgol Olchfa, Abertawe
- Ysgol Y Preseli, Crymych
- Ysgol Uwchradd Crughywel, Crughywel
- Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt, Llanfair y Muallt
- Ysgol Gyfun Caerleon, Casnewydd
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin
Y 10 Uchaf: Ysgolion annibynnol Cymru
- Coleg St John's, Caerdydd
- Ysgol Howell Llandaf i ferched, Caerdydd
- Ysgol Haberdashers' Trefynwy i ferched, Trefynwy
- Ysgol Rhuthun, Rhuthun
- Ysgol St Gerards, Bangor
- Ysgol Trefynwy, Trefynwy
- Coleg Crist Aberhonddu, Aberhonddu
- Ysgol St Michael's, Llanelli
- Ysgol Rougemont, Casnewydd
- Ysgol Plant Hŷn Rydal Penrhos, Bae Colwyn
Mae'r rhestr blynyddol wedi cael ei gyhoeddi ers 22 mlynedd, gydag ysgolion yn cael eu gosod yn ôl canran y canlyniadau Lefel A rhwng A* a B, a A* i A ar gyfer TGAU.
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2014
- 18 Tachwedd 2014
- 13 Tachwedd 2014