Hiliaeth: Cyhuddiad Vincent Tan
- Cyhoeddwyd

Mae perchennog clwb pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, wedi cyhuddo Dave Whelan a Malky Mackay o fod yn hiliol.
Mae'r dyn busnes wedi beirniadu Whelan o wneud sylwadau dirmygus am Iddewon a defnyddio gair dilornus am bobl o'r dwyrain pell mewn cyfweliad gyda phapur newydd.
Gwadodd Whelan gyhuddiad o hiliaeth, ond dywedodd Tan: "Dwi'n credu iddo sarhau urddas holl Iddewon a phobl Tsieineaidd."
Yn ogystal, mae Tan wedi cyhuddo cyn-reolwr Caerdydd, Malky Mackay, o'r un peth.
Mae Mackay yn destun ymchwiliad gan yr FA yn sgil cyhuddiadau iddo wneud sylwadau hiliol, rhywiol a homoffobaidd mewn negeseuon testun ac e-byst tra'n gyflogedig gan glwb Caerdydd.
Ymddiheurodd Mackay a gwadodd ei fod yn hiliol, ond dywedodd Tan, a ddiswyddodd Mackay llynedd, bod ei benodi'n rheolwr i dîm Wigan yn gamgymeriad.
"Dyma gadeirydd hiliol yn cyflogi rheolwr hiliol", dywedodd Vincent Tan.
"Gobeithio na fydd dau ddyn hiliol yn Wigan yn cynyddu i 2,000 neu 20,000 o bobl hiliol."
Gwrthododd Whelan a Mackay ymateb i sylwadau Tan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2014
- Cyhoeddwyd22 Awst 2014
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014