Addewid Scorpion bod 'Mwy o arestiadau i ddod'
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo pump arall, fel rhan o ymgrych Scorpion yn erbyn troseddau difrifol.
Cafodd saith o bobl eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A i ardaloedd yng Ngwynedd a Môn ddoe. Mae'r heddlu wedi cyhuddo pump a rhyddhau dau.
Mae'r pump wedi'u rhyddhau ar fechniaeth yn cynnwys dwy ddynes yn eu 20au a 30au o Fangor, dynes 40 oed o Fethesda, dyn yn ei 30au o Llangefni a un dyn o Macclesfield.
Byddant yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ar 24 Tachwedd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Arwyn Jones: Mae arestiadau'r ymgyrch yn sefyll ar 13 erbyn hyn gyda'r mwyafrif yn wynebu cyhuddiad yn sgil ymateb gwych gan gymunedau lleol wrth i ni gynnal yr arestiadau, ar effaith mae'n ei gael.
"Mi fydd arestiadau pellach i ddilyn, a bydd yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
Ychwanegodd: "Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am gamddefnydd o gyffuriau anghyfreithlon gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo'r Taclau ar 0800 555 111."
Straeon perthnasol
- 20 Tachwedd 2014
- 14 Tachwedd 2014
- 13 Tachwedd 2014
- 7 Awst 2014
- 13 Ionawr 2014