Cymru yn croesawu'r Crysau Duon

halfpenny Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd Leigh Halfpenny yn dychwelyd i'r garfan wedi iddo dderbyn anaf i'w ben yn y gem yn erbyn Awstralia.

Fe fydd Cymru yn croesawu y Crysau Duon i Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn yn y drydedd gem o gyfres ryngwladol yr hydref.

Mae Cymru yn anelu am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Seland Newydd ers 1953.

Ers hynny, yr agosaf y daeth Cymru i ennill yn erbyn y Crysau Duon oedd yn 1972, pan wrthododd y dyfarnwr wobrwyo cais tyngedfennol i J P R Williams,

Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn erbyn y Crysau Duon oedd yn 2012, pan gollodd y tîm cartref 33-10.

Mae cefnwr Cymru â'r Llewod, Leigh Halfpenny yn dweud ei fod yn falch o gael ei le yn ôl ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn ar ôl iddo fethu cymryd rhan yn y fuddugoliaeth dros Fiji'r wythnos diwethaf ar ôl iddo ddioddef anaf yn erbyn Awstralia bythefnos yn ôl.

Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Rhys Webb, Paul James, Richard Hibbard, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Rhodri Jones, Luke Charteris, Justin Tipuric , Mike Phillips, James Hook, Liam Williams.

Seland Newydd: Ben Smith; Charles Piutau, Conrad Smith, Sonny Bill Williams, Julian Savea; Beauden Barrett, Aaron Smith; Wyatt Crockett, Dane Coles, Owen Franks, Brodie Retallick, Sam Whitelock, Kieran Read, Richie McCaw (capten), Jerome Kaino.

Eilyddion: Keven Mealamu, Joe Moody, Charlie Faumuina, Patrick Tuipulotu, Liam Messam, TJ Perenara, Colin Slade, Ryan Crotty.

Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr)