Llofruddio babi: Pledio'n ddi-euog

Amelia Jones Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Amelia Jones o ardal Cwmbrân ym mis Tachwedd 2012.

Mae dyn wedi pledio'n ddi-euog i gyhuddiad o lofruddio merch chwe wythnos oed.

Ymddangosodd Mark Jones, 45 oed, yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo i wadu lladd ei wyres, Amelia Jones.

Mae Mr Jones, sydd hefyd wedi'i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, wedi'i gadw yn y ddalfa.

Mae dyn 17 oed wedi'i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ond ni gyflwynodd ble yn y gwrandawiad a bydd yn parhau ar fechniaeth.

Bu farw Amelia Jones o ardal Cwmbrân ym mis Tachwedd 2012.