Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd

Bala 4-2 Prestatyn
Mewn gêm gyffrous llwyddodd Bala i ennill gartref yn erbyn Prestatyn.
Sgoriodd Ross Weaver i'r ymwelwyr yn gynnar yn yr hanner cyntaf, cyn i Jack Lewis ddyblu eu mantais bum munud yn ddiweddarach.
Ond dim ond dau funud wedi hynny, llwyddodd Kenny Lunt i ddarganfod cefn y rhwyd i'r tîm cartref, cyn i Lee Hunt sgorio eto i'r Bala, i ddod â'r timau yn gyfartal.
Ychydig funudau cyn diwedd yr hanner cyntaf llwyddodd Bala i sgorio dwy gôl o fewn dau funud - un gan Mark Connolly a'r llall gan Lee Hunt.
Bangor 2-2 Aberystwyth
Gêm gyfartal i Fangor yn erbyn Aberystwyth, wrth i'r tîm cartref sgorio yn eu rhwyd eu hunain, funudau'n unig cyn diwedd y gêm.
Cychwynnodd pethau'n ddigon addawol i'r tîm cartref wrth i Sion Edwards sgorio ar ôl 17 munud.
Ond cyn diwedd yr ail hanner llwyddodd Aberystwyth i ddod â phethau'n gyfartal wrth i Geoff Kellaway sgorio.
Deg munud cyn diwedd y gêm llwyddodd Les Davies i roi'r tîm cartref ar y blaen, ond llwyddodd Bangor i ganfod cefn eu rhwyd eu hunain ym munudau olaf y gêm, gan olygu gêm gyfartal o 2-2.
Gap Cei Connah 1-1 Derwyddon Cefn
Gêm gyfartal ddi-fflach, wrth i Gap Cei Connah a Derwyddon Cefn sgorio un gôl yr un.
O'r diwedd wedi dros 60 munud o chwarae daeth gôl a honno i'r Derwyddon Cefn, diolch i Lee Healey.
Llai na 10 munud yn ddiweddarach llwyddod Sean Miller i ddarganfod cefn y rhwyd i Gap Cei Connah, gan ddod â phethau'n gyfartal.