Manchester City 2-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Wilfried BonyFfynhonnell y llun, Reuters

Ar ôl bod ar ei hol hi ar ddechrau'r gem fe lwyddodd Manchester City i drechu Abertawe a chadw'r bwlch rhyngddyn nhw a Chelsea i wyth pwynt.

Ond fe gafodd City fraw. Ar ôl deg munud roedd y tîm cartef gol i lawr ar ôl i Wilfried Bony orffen yn gelfydd yn dilyn pas wych gan Nathan Dyer.

Hon oedd pumed gol Bony mewn chwe gem gynghrair

Daeth y pencampwyr yn gyfartal wrth i Stevan Jovetic fanteisio ar groesiad Jesus Navas.

City oedd yn meistroli ar ôl hynny ac fe wnaeth Gael Clichy daro'r bar cyn i Yaya Toure sgoro'r gol fuddugol.

Ond roedd yna gyfle i Abertawe ddod yn gyfartal, ond Bafetimbi Gomis yn gwastraffu cyfle da, ac aeth Jonjo Shelvey yn agos gyda chic rydd yn yr eiliadau olaf.