Buddugoliaeth i Gasnewydd ond Wrecsam yn colli
- Cyhoeddwyd

Bury 1-3 Casnewydd
Fe wnaeth Aaron O'Connor sgorio hat-tric a sicrhau bod Bury yn colli gartref am y tro cyntaf y tymor hwn yn yr ail adran.
Fe wnaeth ergyd isel O'Connor roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl dim ond dau funud.
Tarodd eto cyn yr eglwys ar ôl blerwch rwng y golgeidwad Scott Loach a'r amddiffynnwr Hayden White.
Fe ddaeth Bury yn ôl i'r gem diolch i ergyd Danny Rose, ond yn hwyr yn y gem sgorio O'Connor eto i selio'r fuddugoliaeth.
Wrecsam 2-3Altrincham
Fe sgoriodd yr eilydd Damian Reeves dwywaith wrth i 10 dyn Altincham guro naw dyn Wrecsam.
Elliott Durrell sgoriodd y gol gyntaf cyn i Scott Leather o Altincham gael ei anfon o'r cae ar ôl trosedd yn erbyn Mark Carrington.
Sgoriodd Louis Moult ail gol Wrecsam, ond cafodd ei anfon o'r cae ddau funud yn ddiweddarach.
Yna yn yr ail hanner cafodd Andy Bishop cerdyn coch .
Tarodd Reeves ddwywaith i ddod ac Altincham yn gyfartal, gyda James Lawrie yn sgorio'r gol fuddugol.