Cleverly yn colli

  • Cyhoeddwyd
Bellew v CleverlyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bellew v Cleverly

Fe wnaeth Nathan Cleverly golli yn yr ornest go drwm yn erbyn Tony Bellew yn Lerpwl nos Sadwrn.

Tro Bellew oedd hi ddathlu yn yr un ganolfan a welodd Cleverly yn ei drechu nol yn 2011.

Roedd hi'n ornest agos iawn gyda Bellew yn dangos ei gryfder yn rownd naw.

Fe wnaeth dau o'r tri dyfarnwr, benderfynu mai Bellew oedd yn fuddugol.

Y tri sgôr, gyda Bellew yn gyntaf oedd, 114-115 116-112 115-113.

Nawr mae'r enillydd yn debygol o wynebu Marco Huck, pencampwr pwysau gor drwm y WBO

Ar ôl yr ornest dywedodd Cleverly: "Mae o'n dangos fy nghymeriad. Rwyf wedi codi mynd i fyny o ran pwysau. fe wnaeth ei gryfder o ddod i'r amlwg yn ail hanner yr ornest. Mae hi nawr yn un ornest yr un, o bosib bydd yna gyfle arall.

Mewn ymateb dywedodd Bellew y byddai'n ymladd mewn unrhyw le gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.