Caeredin 28-13 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Andries Strauss (canol) yn dathlu ar ôl croesi i GaeredinFfynhonnell y llun, SNS

Fe dalodd y Gleision yn ddrud am ddiffyg disgyblaeth brynhawn Sul, wrth i Gaeredin gael buddugoliaeth gyfforddus yn eu gêm Pro12 yn Murrayfield.

Cafodd Jarrad Hoeata, Ellis Jenkins a Sam Hobs i gyd gardiau melyn.

Roedd cais gynnar gan Andries Strauss' a chic Tom Heathcote wedi rhoi'r tîm cartre' ar y blaen.

Er i Gareth Davies gael dwy gic gosb dros Gaerdydd, sgoriodd Dougie Fyfe a Tom Brown ddau gais yn yr ail hanner, gan sicrhau'r fuddugoliaeth i Gaeredin, er i Adam Thomas sgorio cais hwyr dros y Gleision.

Roedd Caeredin driphwynt ar y blaen i'r ymwelwyr cyn y gêm, ac yn wythfed yn y tabl. Mae'r fuddugoliaeth wedi cadarnhau eu lle yn safle hwnnw.

Caeredin: McLennan, Fife, Beard, Strauss, Brown, Heathcote, Hidalgo-Clyne, Sutherland, Hilterbrand, W. Nel, Atkins, B. Toolis, Coman, Grant, Denton.

Eilyddion: Cochrane am Hilterbrand (46), McKenzie am Atkins (67). Heb eu defnyddio: Shiells, Andress, Leonardi, Hart, Tonks, Scott.

Cell cosbi: Grant (66), Heathcote (74).

Gleision Caerdydd: Anscombe, R. Smith, A. Thomas, G. Evans, Fish, G. Davies, L. Williams, Hobbs, Dacey, A. Jones, Hoeata, Cook, Turnbull, E. Jenkins, Vosawai.

Eilyddion: Walsh am Fish (68), Andrews am Hobbs (54). Heb eu defnyddio: R. Williams, T. Davies, Dicomidis, Navidi, L. Jones, G. Smith.

Cell cosbi: Hoeata (4), Jenkins (36), Hobbs (57).

Yn gwylio: 3,803

Dyfarnwr: Leo Colgan (Iwerddon).