Clyw: Galw am wella gwasanaeth teledu

  • Cyhoeddwyd
teulu'n gwylio'r teledu
Disgrifiad o’r llun,
Mae 1 o bob 5 yn brin eu clyw neu'r fyddar, yn ôl yr adroddiad

Mae Ann Jones AC, Cadeirydd pwyllgor Trawsbleidiol dros Faterion Pobl Byddar, yn dweud fod angen gwneud mwy er mwyn gwella profiad gwylwyr teledu'r oes ddigidol sy'n drwm eu clyw neu'n fyddar, a hynny yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Brifysgol Abertawe.

Mae'r adroddiad yn nodi mai isdeitlau yw'r ddyfais fwyaf defnyddiol i gynulleidfa fyddar neu drwm eu clyw wrth geisio deall rhaglenni teledu.

Dywedodd Cyfarwyddwr 'Action on Hearing Loss Cymru', Richard Williams: "Mae pobl sy'n drwm eu clyw yn dibynnu ar isdeitlau er mwyn cael mynediad teg i wasanaethau teledu. Nid ydynt yn bethau moethus, maent yn angenrheidiol.

"Mae rhai gwelliannau wedi bod i isdeitlau, ond mae peth ffordd i fynd eto er mwyn sicrhau bod yr un allan o bump o bobl sy'n dioddef o golli eu clyw yng Nghymru'n cael mynediad tegi deledu."

Mae'r adroddiad yn dweud fod 69% o'r gynulleidfa byddar neu drwm eu clyw yn dibynnu ar gymorth gan declynnau clyw, ac mae tua un rhan o dair yn darllen gwefusau.

Meddai Ann Jones AC: "Mae llawer o bobl trwm eu clyw yn dweud wrthym nad oes darpariaeth digon cyflawn o deledu ar gael, dwi eisiau gweld hyn yn newid."

Ymysg rhai o'r awgrymiadau, mae'r adroddiad yn cynnig bod angen gwell rheoleiddio ar ganllawiau OFCOM.

Awgrym arall sy'n cael ei nodi yw bod mwy o raglenni gyda isdeitlau Cymraeg yn cael eu cynnig i'r gynulleidfa.