Gall ad-drefnu cynghorau gostio £268m, medd adroddiad
- Cyhoeddwyd

Fe all ad-drefnu cynghorau Cymru gostio hyd at £268 miliwn, yn ôl astudiaeth annibynnol sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Ond mae'n bosib y byddai uno awdurdodau hefyd yn arwain at arbedion blynyddol o hyd at £65 miliwn y flwyddyn.
Mae ymchwil y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (SSCCC) yn edrych ar effeithiau posib uno'r awdurdodau, fel cafodd ei awgrymu ym mis Ionawr gan y Comisiwn Williams.
Yr awgrym oedd lleihau'r nifer o 22 i wyth neu ddeg.
Arbed £65m bob blwyddyn?
Fe wnaeth Comisiwn Williams awgrymu y byddai uno yn arbed rhwng £60m ac £80m y flwyddyn, er y byddai cost o £100m i gwblhau'r newid.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, £200m fyddai'r gost o ad-drefnu.
Mae'r adroddiad gan SSCCC yn dweud y gall y gost fod rhwng £160m a £268m, ond fe all olygu arbedion o £65m y flwyddyn ar ôl hynny.
Cafodd y swm ei gyfrifo gan amcangyfrif yr arbedion o ddiswyddo staff sy'n dyblygu gwaith a gwerthu adeiladau ychwanegol.
Dywed yr adroddiad y gall costau uno fod yn wahanol iawn i awdurdodau gwahanol, gan fod gwahaniaethau mawr mewn gwariant ar wasanaethau gwahanol.
Byddai gallu awdurdodau i arbed arian hefyd yn ddibynnol ar doriadau i'w cyllidebau gan y llywodraeth yn y dyfodol.
Ddydd Llun, fe wnaeth Cyngor Pen-y-bont bleidleisio o blaid uno gyda Bro Morgannwg mewn cyfarfod llawn.
'Costio i wneud dim'
Dywedodd Prif Weithredwr SSCCC, Rob Whiteman, bod angen i arweinwyr gwleidyddol fod yn "onest" gyda'r cyhoedd am y dyfodol.
"Bydd angen i'r proffesiwn cyllid yn enwedig fod yn ymwybodol o faterion rheoli risg yn deillio o newid strwythurol mawr, wrth geisio cyflawni lleihad i gyllidebau cynghorau ar yr un pryd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru bod yr angen am newid y drefn yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf a bod uno yn wirfoddol yn rhoi cyfle i awdurdodau reoli eu dyfodol eu hunain.
"Gallwn ni ddim fforddio methu'r cyfle yma i newid strwythur ein cynghorau a defnyddio cyllid i wella gwasanaethau," meddai.
"Mae cost sylweddol ynghlwm a gwneud dim. Mae'n ddiddorol bod ffigwr y SSCCC llawer is nac amcanion blaenorol y Gymdeithas Llywodraeth Leol o £400m."
Mae'r BBC wedi gofyn i'r Gymdeithas Llywodraeth Leol ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014