Apêl wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam
- Published
Mae'r Heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam nos Lun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad rhwng Peugeot 307 arian a lori Scania ar yr A483 ger Rhiwabon am tua 18:15 nos Lun.
Bu farw gyrrwr y car o'i anafiadau, ac mae'r Heddlu yn credu iddo fod yn ddyn ei 30au.
Mae ei deulu wedi cael gwybod.
Ni chafodd gyrrwr y lori ei anafu.
Mae'r heddlu yn awyddus i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw ar 101.