Llofrudd Lee Rigby wedi astudio yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth un o'r dynion lofruddiodd y milwr Lee Rigby yn Llundain y llynedd astudio mewn Coleg Islamaidd yng Ngheredigion.
Yn ôl Adroddiad Cudd-wybodaeth a Diogelwch Llywodraeth Prydain, fe wnaeth Michael Adebowale astudio Arabeg yn Sefydliad Ewropeaidd y Gwyddorau Dynol ger Llanybydder, sy' dros y ffin yn Sir Gâr.
Fe wnaeth y coleg golli achrediad yn 2005, ac fe gaeodd yn 2012.
Cafodd Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru wybod gan MI5 ei bod yn debyg bod Adebowale wedi astudio yng Nghymru.
Ond casglodd yr uned nad oedd y dyn wedi bod mewn unrhyw drafferth pan oedd yn fyfyriwr.
Mewn datganiad, dywedodd yr Heddlu Fetropolitan bod y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch wedi cwblhau adolygiad o'r hyn oedd yr awdurdodau yn ei wybod am y dynion cyn iddyn nhw lofruddio Lee Rigby.
Dywedodd y llefarydd bod hynny wedi cynnwys archwiliad o weithgareddau'r asiantaethau cudd-wybodaeth a'r heddlu, ond nad oedden nhw am roi unrhyw fanylion pellach.