Gall y twyllwr Martin Evans fod yn rhydd mewn 9 mis

  • Cyhoeddwyd
Martin EvansFfynhonnell y llun, NAtional Crime Agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Martin Evans ei arestio yn Ne Affrica ym mis Awst

Fe all troseddwr adnabyddus aeth ar goll am dair blynedd gael ei ryddhau mewn naw mis.

Cafodd Martin Evans, wnaeth dwyllo pobl i fuddsoddi £900,000 mewn fferm estrys, gael ei estraddodi i'r DU yn ddiweddar, ac mae awdurdodau yn ceisio dod o hyd i asedau gwerth miliynau o bunnau.

Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn mynnu y byddan nhw bob amser yn cadw golwg ar Evans.

Dywedodd un o ymchwilwyr yr NCA wrth raglen Week In Week Out y BBC: "Mae'n fygythiad mawr i'r gymdeithas. Hoffwn ei weld yn talu ei ddyled i'r cyhoedd. Bydd pobl fel Martin Evans wastad yn ein golwg."

Ond mae ei fab wedi dweud bod ei dad am greu bywyd newydd i'w hun ar ôl cael ei ryddhau.

'Bygythiad'

Cafodd Evans ei garcharu am 24 mlynedd yn 2004 am smyglo cyffuriau a thwyll ariannol - gafodd ei leihau i 21 blynedd wedi apêl, ac i bedair blynedd a hanner am y twyll fferm estrys.

Bum mlynedd ar ôl cael ei ddedfrydu, cafodd Evans ei ryddhau i ymweld â'i deulu, a diflanodd o'r DU.

Disgrifiad o’r llun,
Sefydlodd Evans y fferm estrysod pan fethodd busnes arall oedd ganddo

Cafodd ei ddarganfod yng Nghyprus, ac fe wnaeth Week In Week Out ddarganfod bod Evans wedi bod yn byw mewn cartref crand yn y bryniau.

Llwyddodd Evans i gael caniatâd i aros yng Nghyprus, lle nad oes cytundeb estraddodi gyda'r DU, a bu'n byw yno am flwyddyn.

Bu rhaid iddo ddianc i Dde Affrica ar ôl i'r NCA lansio ymgyrch Zygos, lle cafodd ei arestio ym mis Awst eleni.

'Asedau gwerth miliynau'

Dywedodd ymchwilydd yr NCA: "Cafodd ei ddal yn gadael tŷ ffrind. Wnaeth o ddim gwrthod. Mae'n debyg ei fod yn ein disgwyl ni ar ryw adeg.

"Dwi'n dychmygu ei fod yn edrych dros ei ysgwydd yn rheolaidd dros y tair blynedd diwethaf".

Cafodd Evans ei gludo yn ôl i'r DU fis diwethaf, ac fe all gael ei ryddhau mewn naw mis.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau na fydd Evans yn wynebu unrhyw gyhuddiadau newydd er iddo fod ar ffo am dair blynedd.

Mae'r NCA eisoes wedi cymryd rhai o asedau Evans, gan gynnwys fflat gwerth £1m yn Miami, ond maen nhw am gael mwy - fel ei gwch hwylio, cartref yn Sbaen ac arian sydd mewn cyfrifon banc yn y Swistir.

Sicr o ffoi?

Dau gollodd arian yn y twyll fferm estrys oedd Betty a Peter Johns o Abertawe. Fe wnaeth y cwpl fuddsoddi £12,500 yn y cynllun.

"Galla i ddim credu bod unrhyw un yn ei iawn bwyll wedi gadael Martin Evans allan ar drwydded, fel y gwnaethon nhw. Roedd o'n sicr o ffoi yn doedd?" meddai Betty.

Mae'r Gwasanaeth Carchardai wedi gwrthod gwneud sylw ar achos Martin Evans, ond maen nhw'n dweud bod systemau wedi eu newid.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron bod y broses estraddodi ddim ond yn ymwneud â'r troseddau cyffuriau, twyll ariannol a thwyll yn 2004 a 2006, ac felly nid oedd modd ei gyhuddo am ddianc o'r carchar.

Mewn cyfweliad hefo Week In Week Out, dywedodd mab Evans, Robert Hicks, ei fod yn meddwl bod ei dad yn edifarhau, ac am adeiladu bywyd newydd ar ôl cael ei ryddhau.

Mae Week In Week Out ar BBC One am 22:35 nos Fawrth.