Cyhoeddi'r merched ar restr fer Llafur yng Nghwm Cynon

  • Cyhoeddwyd
Ann CLwyd

Mae tair dynes wedi eu henwi ar yr un rhestr fer ag Ann Clwyd fel ymgeiswyr Llafur yng Nghwm Cynon ar gyfer etholiad cyffredinol 2015.

Fe wnaeth Ms Clwyd, sy'n 77, gyhoeddi ei bwriad i ymddeol wedi 30 mlynedd yn y Senedd, ond ym mis Medi dywedodd ei bod wedi newid ei meddwl.

Dywedodd y blaid y byddai rhaid i Ms Clwyd geisio am enwebiad Llafur fel ymgeisydd ar ôl newid ei meddwl.

Y tair arall sydd ar y rhestr yw swyddog undeb PCS, Katie Antippas, cyngorydd Rhondda Cynon Taf, Sue Pickering a'r gwyddonydd Aysha Raza, sydd hefyd yn gynghorydd Llafur yn Ealing, gorllewin Llundain.

Roedd dadlau ym mis Mehefin dros benderfyniad y blaid i ddefnyddio rhestr fer yn cynnwys menywod yn unig.

Daeth y penderfyniad ar ôl i Ann Clwyd ddweud y byddai'n ymddeol cyn yr etholiad yn 2015.

Ond ym mis Medi, cadarnhaodd y byddai'n ymgeisio am y sedd eto, gan ddweud bod etholwyr lleol wedi gofyn iddi ail-ystyried.

Mae Ms Clwyd wedi cynrychioli'r etholaeth ers 1984.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur yng Nghymru: "Dan y drefn sydd wedi ei sefydlu mae detholiad llawn yn digwydd pan mae AS yn cyhoeddi eu bwriad i gamu o'r neilltu."