Cam-drin babi: Cymeriad 'Jekyll a Hyde'
- Cyhoeddwyd

Fe glywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth fod tad ifanc wedi cam-drin ei ferch fach pedwar mis oed.
Fe gafodd gwddf y ferch ei dorri, ac fe ddioddefodd niwed i fadruddyn ei chefn.
Mae hi nawr yng ngofal yr awdurdodau.
Mae'r tad, sy'n ugain, yn cyfaddef mai fo oedd yn gyfrifol am achosi'r anafiadau ond fe glywodd y llys ei fod yn "gymeriad Jekyll a Hyde", a'i fod yn gwadu achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Ddydd Mawrth, fe ddechreuodd yr erlyniad ei achos yn erbyn y diffynnydd.
Fe ddywedodd yr erlynydd bod hwn yn "achos gofidus sy'n cynnwys creulondeb tuag at fabi bach".
Fe ddywedodd wrth y rheithgor y gallai rhai o'r ffeithiau "fod yn anodd i wrando arnyn nhw".
Ymysg y ffeithiau hynny, roedd rhestr o anafiadau'r ferch pan gafodd ei chludo i'r ysbyty fis Ionawr yn "llipa a diymateb".
Pryder meddygon
Fe ddangosodd profion ei bod wedi torri asgwrn yn ei gwddf a bod niwed i fadruddyn ei chefn.
Clywodd y rheithgor fod meddygon yn pryderu bod yr anafiadau wedi eu hachosi'n fwriadol. Oherwydd hyn, fe gafodd y ferch ei throsglwyddo i ysbyty yng Nghaerdydd i dderbyn profion pellach.
Yna, daeth i'r amlwg ei bod hi wedi torri pum asen, a bod rhai eraill o'i hesgyrn wedi eu torri'n flaenorol ac wedi dechrau gwella.
Bu Dr Paul Davies, ymgynghorydd pediatrig yng Nghaerdydd, yn rhoi tystiolaeth.
Fe glywodd y rheithgor ganddo am adroddiad yr oedd e wedi ei ysgrifennu yn egluro holl anafiadau'r ferch. Dywedodd nad oedd yr anafiadau yn rhai damweiniol.
Ychwanegodd nad oedd rheswm meddygol dros yr anafiadau - a'i fod o'r farn eu bod wedi eu hachosi'n fwriadol.
'Jekyll a Hyde'
Fe glywodd y rheithgor fod y diffynnydd wedi gwadu cam-drin ei ferch pan gafodd ei holi gan yr heddlu.
Er hyn, fe gyfaddefodd ei fod wedi ei hysgwyd, cydio yn ei gwddf, ei siglo gerfydd ei choesau, ei gwasgu, eistedd arni a gwasgu ei fysedd yn ei llygaid.
Mewn datganiad, fe ddywedodd y tad ei fod yn "gymeriad Jekyll a Hyde", gan ddweud ei fod yn anghenfil, a "dan bwysau eithriadol yn magu'r plentyn".
Mae'r achos yn parhau.