Cynllun £500m i ailwampio rhan o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun gwerth £500m i ailwampio ardal segur yng nghanol Nghaerdydd wedi ei ddatgelu.
Fe fydd y datblygiad ar Ffordd Dumballs yn y brifddinas yn cynnwys 2,150 o gartrefi, ysgol gynradd, siopau a bwytai.
Mae arweinydd cyngor Caerdydd, Phil Bale wedi croesawu'r prosiect - sydd ddim yn dibynnu ar arian cyhoeddus.
Fe gafodd y cynllun blaenorol i ariannu'r cartrefi drwy drefniant benthyca ac adlesu ei wrthod.
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yng gwanwyn 2015.
'Gwir angen'
Yn ôl prif weithredwr y datblygwyr, Bellerophon, Richard Daley, mae'n "ddiwrnod hanesyddol" i Gaerdydd.
"Ffordd Dumballs ydi'r unig ddarn o dir ynghanol y ddinas sy'n dal i fod â gwir angen ei adnewyddu.
"Mae wedi bod yn flotyn ar y tirwedd am gyfnod rhy hir.
"Fe fydd y prosiect - sy'n ganolbwynt i Ardal Fenter y ddinas - yn hwb economaidd ac yn creu miloedd o swyddi, yn ystod y broses adeiladu ac wedi hynny."