BBC Cymru Fyw

Cymry'n derbyn anrhydeddau'r Frenhines

Published
image copyrightSandra and Stuart Peacock
image captionMae Sandra a Stuart Peacock wedi cadw mewn cysylltiad â'r plant maen nhw wedi eu maethu

Mae 'na bump o bobl o Gymru ymysg y rhai sy'n derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ddydd Mercher.

Fe fydd yr Athro Michael Owen o Brifysgol Caerdydd yn cael ei urddo'n farchog am ei wasanaeth i wyddoniaeth niwrolegol a iechyd meddyliol.

Bydd dau ofalwr maeth o'r Barri, Sandra a Stuart Peacock, a chyn-brifathro Ysgol Castell Alun yn Wrecsam, David Mounfort, oll yn derbyn MBE.

Fe fydd sylfaenydd Ymddiriedolaeth Cae Dai, Robert Harrison o Ddinbych, yn ymuno â nhw.

image captionFe sefydlodd Mr Harrison yr ymddiriedolaeth yn 1994 wedi i ysbyty meddwl yr ardal gau
image copyrightCardiff University
image captionMae'r Athro Owen yn adnabyddus am ei waith ymchwil i gyflyrau yn cynnwys sgitsoffrenia a chlefyd Alzheimer.