John Allen yn euog o 26 cyhuddiad o gam-drin plant

John Allen Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae cyn reolwr cartrefi plant yn y gogledd ddwyrain, John Allen wedi ei gael yn euog o 26 cyhuddiad o gam-drin plant yn rhywiol.

Fe'i cafwyd yn ddieuog o ddau o'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae'r rheithgor yn parhau i ystyried eu dyfarniadau am y cyhuddiadau eraill.

Roedd Allen, sy'n 73 ac o Needham Market yn Suffolk, wedi gwadu 40 cyhuddiad o gam-drin rhywiol yn erbyn 19 o fechgyn ac un ferch rhwng y 1960au a'r 1990au.

Ond wedi pum niwrnod o drafod yn Llys y Goron yr Wyddgrug, cafwyd yn euog o 26 cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Cafodd y rheithgor eu gyrru adref am y diwrnod, cyn parhau i ystyried eu dyfarniad ddydd Iau.

Roedd Allen yn gyfrifol am 11 o gartrefi plant yn ardal Wrecsam oedd yn cael eu hadnabod fel Cartrefi Bryn Alyn.