Tanwydd Murco yn effeithio ar gwsmeriaid Morrisons

  • Cyhoeddwyd
MorrisonsFfynhonnell y llun, Google

Mae'r archfarchnad Morrisons wedi dweud i gwmni Murco gyflenwi tanwydd oedd yn cynnwys dŵr.

Ac mae hyn wedi effeithio ar orsafoedd petrol yng Nghaerfyrddin a Llanelli.

Cafodd pympiau petrol eu cau yn y ddwy orsaf betrol yn sgil pryderon am y tanwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Morrisons: "Rydym yn cael ein petrol di-blwm o burfa olew Aberdaugleddau, sydd wedi cadarnhau ei bod yn bosib bod dŵr yn y tanwydd."

Torrodd car un cwsmer i lawr dim ond 100 metr o'r archfarchnad ym Mharc Pensarn, Caerfyrddin.

Dywedodd llefarydd ar ran yr archfarchnad bod dau bwmp yn dangos "bod olion dŵr".

'Cyngor'

Ychwanegodd: "Ein cyngor i yrwyr sy'n amau iddyn nhw gael eu heffeithio yw peidio â thanio na gyrru eu cerbydau. Mae modd iddyn nhw gysylltu â ni gyda'u manylion."

Roedd Marc Skone wedi prynu gwerth £40 o danwydd yng Nghaerfyrddin.

"Dwi wedi gwario tua £210 y bore 'ma ar wagio'r tanc, rhywbeth na allai ei fforddio gyda'r Nadolig yn dod."

Dywedodd Morrisons na fyddai'r pympiau'n ailagor nes bod sicrwydd bod y broblem wedi ei datrys.

"Rydym ni'n ymddiheuro i unrhyw fodurwyr sydd wedi eu heffeithio gan yr anghyfleustra ... bydd ad-daliadau am danwydd ac am atgyweirio ceir."

Dywedodd Murco eu bod yn ymchwilio i'r mater.