BBC Cymru Fyw

Gwener Gwario: Galw am gymorth yr heddlu

Published
image copyrightMatthew Horwood
image captionSiopwyr yn archfarchnad Tesco, Caerdydd
Cafodd yr heddlu eu galw i archfarchnad yng Nghaerdydd bore Gwener gydag adroddiadau o drafferthion wrth i gwsmeriaid gystadlu am fargeinion.
Mae nifer o siopau yn rhoi cynigion a phrisiau arbennig ar ddydd Gwener Gwario wrth iddynt geisio denu cwsmeriaid yn yr wythnosau cyn y Nadolig.
Cafodd yr heddlu eu galw i archfarchnad Tesco ar Rodfa'r Gorllewin ond ni chafodd unrhyw un ei arestio.
media captionPobl yn archfarchnad Tesco yn Gabalfa
Roedd rhai siopwyr wedi trydar fod cwsmeriaid wedi bod yn ymladd.
Bu rhai pobl yn ciwio ers 18:00 er mwyn cael mynediad i' siop am hanner nos.
Mae dydd Gwener Gwario yn draddodiad sy'n cael ei gysylltu gyda'r Unol Daleithiau, lle mae'r siopau yno yn denu cwsmeriaid ar ôl cyfnod gwyliau Diolchgarwch y wlad.
image copyrightMatthew Horwood
image captionYr heddlu yn cyrraedd archfarchnad Tesco yng Nghaerdydd