Trethdalwyr yn talu am Porsche £90,000 Bryn Parry-Jones
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau fod y cyn brif weithredwr Bryn Parry-Jones yn gyrru Porsche Panamera moethus ar les - a hynny ar gost y trethdalwyr.
Roedd y cyngor wedi gwrthod a rhyddhau'r wybodaeth i BBC Cymru am gyfnod o wyth mis.
Fe wnaeth yr awdurdod lleol benderfynu datgelu'r wybodaeth ar ôl i Mr Parry-Jones adael ei swydd.
Roedd BBC Cymru wedi gwneud cais dan y Ddeddf Rhyddid Wybodaeth nol ym mis Mawrth.
Fe wnaeth y cyngor wrthod rhyddhau manylion gwneuthuriad car y prif weithredwr, ac fe wnaeth y BBC apelio'r penderfyniad i'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Credir bod Mr Parry-Jones yn gyrru Porsche Panamera, oedd yn gar petrol/trydan, ac yn costio tua £90,000.
Roedd y car ar les ac yn rhan o becyn cyflogaeth y prif weithredwr.
Yn wreiddiol, roedd Cyngor Penfro wedi gwrthod datgelu'r wybodaeth gan ddweud bod modd ei eithrio o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth oherwydd bod y manylion yn cynnwys gwybodaeth bersonol.
Cafodd y pecyn ei leihau £52,760 ar ôl ymyrraeth Swyddfa Archwilio Cymru, oedd yn poeni y byddai elfen o'r pecyn yn "anghyfreithlon."
Tra'n brif weithredwr roedd Mr Parry-Jones yn derbyn cyflog o £195,000 - y tâl uchaf o blith prif weithredwyr cynghorau Cymru.
Fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid cynnig diffyg hyder yn Mr Parry-Jones ym mis Medi ar ôl ffrae am arian a dderbyniodd yn lle cyfraniadau pensiwn.
Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi penderfynu fod cynghorau Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr Parry-Jones, ac uwch swyddog arall yn Sir Benfro a phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin Mark James, ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2014