Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr yn camu o'r neilltu

  • Cyhoeddwyd
Prof Michael Scott
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd yr Athro Scott yn camu i'r neilltu y flwyddyn nesa'

Fe fydd is-ganghellor a phrif weithredwr Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yn rhoi'r gorau i'w swydd y flwyddyn nesa.

Daw cyhoeddiad yr Athro Michael Scott ddyddiau wedi i'r brifysgol ad-ennill yr hawl i noddi myfyrwyr o dramor - wedi ymchwiliad i dwyll fisa honedig.

Fe ddywedodd yr Athro Scott bod codi'r gwaharddiad wedi rhoi cyfle iddo ystyried ei safle ymhellach.

Mewn datganiad, fe ddywedodd: "Gallwn roi taw ar y sibrydion, wnaiff ein galluogi ni i barhau â'r gwaith i ail-adeiladu a diogelu'r brifysgol er budd y myfyrwyr, rhanddalwyr a'r cymunedau 'da ni'n eu gwasanaethu.

"Er nad ydw i mewn safle i roi rhybudd ffurfiol yn rhinwedd dy nghytundeb, gallaf gadarnhau fy mwriad i roi'r gorau i fy rôl - os ydw i'n hapus gyda'r trefniadau - rywbryd yn ystod y flwyddyn nesa'."

Fe ddywedodd canghellor y brifysgol, Syr Jon Shortridge: "Bydd bwrdd y llywodraethwyr yn parhau i weithio'n agos gyda'r Athro Scott nes iddo basio'r baton i olynydd fydd yn adeiladu ar ei lwyddiannau ardderchog."