Pro12: Gleision yn curo Treviso
- Cyhoeddwyd

Fe oroesodd Gleision Caerdydd ail-hanner caled, wrth i Treviso ymladd yn ôl, ar ôl hanner cyntaf siomedig i'r Eidalwyr.
Dyma ail fuddugoliaeth o'r tymor i'r Gleision yn y Pro 12.
Cafwyd ceisiau gan Lloyd Williams, Joaquin Tuculet, Richard Smith, Kristian Davey a Rory Watts-Jones, gyda Gareth Anscombe a Gareth Davies trosi'r gweddill.
Roedd y fuddugoliaeth gartref gyntaf yma i'r Gleision yn creu bwlch o chwe phwynt rhyngddynt a'r Dreigiau yn y tabl.
Roedd y chwaraewr rhyngwladol o'r Ariannin, Joaquin Tuculet yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ac roedd Anscombe yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y crys rhif 10.
Y sgôr ar y diwedd oedd Gleision 36 - 25 Treviso.