C. diff ar gynnydd ym Mangor a Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion yn dweud fod nifer yr achosion o'r feirws Clostridium difficile (C. diff) wedi codi mewn ysbytai yng ngogledd Cymru dros y ddau fis diwethaf.
Mae'r cynnydd wedi bod yn bennaf yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ôl adroddiad.
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu beirniadu'n hallt y llynedd am y ffordd roeddynt yn trin y clefyd.
Mae'r adroddiad yn dweud fod camau wedi eu cymryd ar wardiau i atal mwy o achosion rhag codi.
Y llynedd, fe ymddiheurodd y bwrdd iechyd wrth deuluoedd y cleifion a fu farw ar ôl dioddef o'r haint yn ystod achosion yn Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych.
Yn yr adroddiad, dywedodd Tracey Cooper, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, sy'n gyfrifol am reoli heintiau, "Rydym wedi nodi cynnydd mewn achosion ar wardiau, er mwyn canolbwyntio a rhoi sylw i atal achosion pellach rhag codi.
"Mae'r camau a gymerwyd yn y meysydd hyn yn cynnwys mwy o fonitro hylendid dwylo a glendid comôdau, mwy o ffocws ar ragnodi gwrthfiotigau a mwy o gefnogaeth Tîm Atal Heintiau."
Yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth eleni, roedd y nifer o achosion o C. diff yng ngogledd Cymru yn 54.72 am bob 100,000 o boblogaeth, o'i gymharu â ffigwr Cymru gyfan, sef 45.43. Y ffigwr ar gyfer Lloegr ydi 25 ym mhob 100,000.