Gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mhowys: chwilio am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am dystion ar ôl damwain rhwng dau gar ar yr A470 rhwng Llandinam a Chaersws ym Mhowys tua 07:50.
Aed â gyrrwr car Vauxhall Astra i Ysbyty Stoke mewn hofrennydd ac aed â gyrrwr Volkswagen Passat i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Roedd yr A470 ynghau i'r ddau gyfeiriad yn ystod oriau brig y traffig.
Digwyddodd y ddamwain rhwng y groesfan reilffordd ger Caersws a Llandinam.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi defnyddio offer arbennig i dorri un person allan o gerbyd ychydig cyn 08:00.
Ailagorodd y ffordd am 10.25. Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Cwnstabl 654 McLellan ar 101.