'Ffolineb' cyllido ysgolion Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Fel ym mhob sir yng Nghymru, mae pryderon yn cynyddu ymysg athrawon Gwynedd y gallan nhw wynebu diswyddo gorfodol yn sgil toriadau yng nghyllidebau ysgolion dros y tair blynedd nesaf.
Ond mae beirniadaeth nawr fod Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio'r ysgolion cyn gwybod faint yn union o doriadau oedd i ddod i'r gyllideb addysg, a'u bod wedi gweithredu ar sail "dyfalu pur".
Yn ôl y cyngor, mae pob un o'u hadrannau wedi gorfod cynllunio o flaen llaw i gyflawni cyfanswm arbedion o £34 miliwn pellach dros y tair blynedd nesaf.
Ond mae Llais Gwynedd nawr yn galw am ymchwiliad trylwyr i sut y bu i ysgolion y sir dderbyn gwybodaeth am y toriadau posib i'w cyllidebau cyn i'r toriadau hynny gael eu cadarnhau.
Yn wreiddiol gofynwyd i ysgolion ddechrau ar broses o ddiswyddo staff er mwyn ateb diffyg ariannol o 6% o ganlyniad i doriadau gwerth £4.3 miliwn i'w cyllideb.
O ganlyniad i'r amcangyfrifon yma, daeth i'r amlwg fod rhai ysgolion wedi dechrau paratoi i wneud toriadau o hyd at £500,000 yr un dros y tair blynedd nesaf.
Ond nawr mae wedi dod i'r amlwg fod cyfrifwyr y cyngor yn cydnabod mai "amcan cefn amlen bras iawn" oedd y ffigyrau cychwynol.
Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, o Lais Gwynedd: "Duw â ŵyr faint o ddrwg mae'r ffolineb wedi'i wneud i hyder athrawon, cymorthyddion a llywodraethwyr ein hysgolion.
"Mae'n warth llwyr for staff yr ysgolion wedi clywed fod eu swyddi'n yn fantol o ganlyniad i ddyfalu pur."
Rhybuddio staff
Un o'r nifer o ysgolion sydd wedi dechrau paratoi yn sgil y pryderon ydy Ysgol Brynrefail yn Llanrug.
Cafodd llywodraethwyr yr ysgol wybod eu bod yn debygol o wynebu toriadau o hyd at hanner miliwn o bunnoedd dros y tair blynedd nesaf.
Yn sgil y newyddion yma, mae'r llywodraethwyr eisoes wedi ysgrifennu at staff yn eu hysbysu fod toriadau yn bosib.
Dywedodd Dafydd Roberts, cadeirydd y llywodraethwyr: "Yn sgil y newyddion am y toriadau enfawr yma, mae'n anodd iawn gweld ein bod yn gallu gwneud toriadau heb ddiswyddo.
"Rydym yn siomedig iawn ym mhenderfyniad Cyngor Gwynedd i dorri'r gyllideb.
"Mi fyddwn yn herio'r penderfyniad yn ddi-os.
"Mae'r awdurdodau yn disgwyl i ni wneud toriadau ar draul addysg ein plant. Mae'r peth yn chwerthinllyd."
Pan ofynnwyd i Mr Roberts, pam eu bod wedi llythyru athrawon yr ysgol cyn unrhyw gadarnhad am doriadau, dywedodd: "Mae'r broses ddiswyddo orfodol yn un hir a statudol, mae camau mae'n rhaid eu cymryd, ac felly pan ddaw'r cadarnhad o'r toriadau, fe fydd y broses eisoes wedi cychwyn.
"Mae'r awdurdodau yn defnyddio'r term 'gormodedd' i gyfiawnhau'r diswyddo, does 'na ddim ffasiwn beth â 'gormodedd' athrawon, dim ond diffyg cyllid."
'Maint yr her ariannol'
Mae Cyngor Gwynedd wedi amddiffyn eu penderfyniad i rybuddio am y toriadau, gan ddweud fod yn rhaid i bob un o wasanaethau'r cyngor gynllunio i gyflawni cyfanswm arbedion o £34 miliwn pellach dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: "Yn y gorffennol, mae'r cyngor wedi amddiffyn ysgolion y sir drwy adnabod a gweithredu arbedion trymach ar draws gweddill gwasanaethau'r cyngor.
"Erbyn hyn yn anffodus, oherwydd maint yr her ariannol byddai parhau i warchod ysgolion yn llwyr yn cael effaith pellgyrhaeddol ar allu'r cyngor i ddarparu gwasanaethau hanfodol eraill gan fod ein cyllideb addysg yn cynrychioli 38% o gyllideb y cyngor yn ei gyfanrwydd.
"Oherwydd hyn, ym mis Hydref, penderfynwyd gosod targed arbedion o £4.3 miliwn dros y tair blynedd nesaf i'n hysgolion. Mae'r targed hwn yn gyfystyr ag oddeutu 6% o gyllideb ysgolion y sir ac yn golygu ein bod yn parhau i ddarparu gwarchodaeth sylweddol iawn i'n hysgolion o'i gymharu gyda gwasanaethau eraill y cyngor, a fydd yn gorfod ymdopi gyda gostyngiad rywle rhwng 15% ac 20% yn dros yr un cyfnod.
"Yn dilyn y penderfyniad yma, rydw i wedi sefydlu gweithgor arbennig o'r Fforwm Cyllido Ysgolion sy'n cynnwys penaethiaid a llywodraethwyr o'r sector cynradd ac uwchradd i adnabod cynlluniau posib i wireddu arbedion mewn ffyrdd fydd yn lliniaru'r effaith ar lawr y dosbarth.
"Serch hyn, mae'n anorfod y bydd rhaid i ysgolion unigol, fel pob un o wasanaethau eraill sy'n cael eu cyllido gan y Cyngor, ysgwyddo rhan o'r baich ariannol."
Straeon perthnasol
- 8 Hydref 2014
- 7 Hydref 2014
- 30 Gorffennaf 2014