Cymru 12-6 De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images

Hir yw pob ymaros medde nhw, a dydd Sadwrn o'r diwedd, wedi pymtheg mlynedd o aros, llwyddodd Cymru i drechu De Affrica.

Roedd Cymru wedi colli yn eu 16 gemau diwethaf yn erbyn De Affrica, a heb flasu buddugoliaeth ers 1999, ond daeth llwyddiant ddydd Sadwrn diolch i gicio Leigh Halfpenny.

Ni lwyddodd yr un o'r ddau dîm i sgorio cais, wrth i'r pwyntiau i gyd ddod drwy giciau cosb gan Leigh Halfpenny a Pat Lambie, ond i Gymru - buddugoliaeth yw buddugoliaeth.

12-6

Aeth Cymru ar y blaen wedi dim ond tri munud, a hynny diolch i gic gosb lwyddiannus gan Leigh Halfpenny.

Ni pharhaodd y fantais honno'n hir wrth i Pat Lambie sgorio cic gosb i'r ymwelwyr.

Methodd Halfpenny gyda'i ymgais am ail gic gosb, ac er gwaethaf llwyddiant Cymru i roi pwysau sylweddol ar y tîm o hemisffer y de, ni chafodd y pwysau ei drosi'n bwyntiau.

Ar ddiwedd yr hanner cyntaf roedd hi'n gyfartal rhwng y ddau dîm - 3-3.

O fewn ychydig funudau i gychwyn yr ail hanner roedd Cymru wedi mynd ar y blaen wrth i Halfpenny lwyddo gyda chic gosb arall, ond munudau'n unig barhaodd y fantais honno wrth i Lambie hefyd lwyddo gyda chic gosb.

Ond roedd y ddau dîm yn parhau i wneud camgymeriadau, a chymerodd Halfpenny y cyfle i roi Cymru ar y blaen, 9-6, cyn ychwanegu at gyfanswm Cymru unwaith eto bedwar munud yn ddiweddarach.

Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i Dde Affrica wrth i'w capten, Jean de Villiers, orfod cael ei gario o'r cae oherwydd anaf.

Cyn i Cornal Hendricks gael ei anfon o'r cae am 10 munud wedi tacl di-ofal ar Halfpenny.

Bu'n rhaid i Halfpenny, yr unig chwaraewr i sgorio i Gymru, adael y cae oherwydd anaf.

Ond llwyddodd Cymru i ddal gafael ar eu mantais, gan olygu buddugoliaeth hir-ddisgwyliedig i'r tîm cartref.

Y Timau

Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Dan Biggar, Rhys Webb, Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (Capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Emyr Phillips, Aaron Jarvis, Rhodri Jones, Luke Charteris, James King, Mike Phillips, Rhys Priestland, Scott Williams.

De Affrica: Willie le Roux; Cornal Hendricks, Jan Serfontein, Jean de Villiers (Capten), Lwazi Mvovo; Pat Lambie, Cobus Reinach; Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Coenie Oosthuizen; Eben Etzebeth, Victor Matfield; Marcell Coetzee, Teboho Mohoje, Duane Vermeulen.

Eilyddion: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Julian Redelinghuys, Lood de Jager, Nizaam Carr, Francois Hougaard, Handré Pollard, Damian de Allende.