Caerliwelydd 2-3 Casnewydd
- Published
Buddugoliaeth i Gasnewydd oddi cartref yn erbyn Caerliwelydd (Carlisle), a hynny mewn gêm gyffrous.
Wedi llai na 10 munud o chwarae aeth Casnewydd ar y blaen diolch i beniad gan Yan Klukowski.
A dau funud wedi i'r ail hanner gychwyn, dyblodd yr ymwelwyr eu mantais, wrth i Ismail Yakubu ganfod cefn y rhwyd.
Ond doedd y fantais honno ddim i barhau'n hir wrth i Brad Potts sgorio i'r tîm cartref.
A pharhaodd y sgôr yn 1-2 i Gasnewydd, tan munudau olaf y gêm pan sgoriodd Shaun Jeffers i Gasnewydd wedi 90 munud o chwarae, cyn i David Amoo wneud union yr un fath i'r tîm cartref.